Datganiad hygyrchedd
Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am wefan Cysylltu â'r Ganolfan Byd Gwaith yn unig.
Defnyddio'r gwasanaeth hwn
Mae'r gwasanaeth hwn yn cael ei redeg gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Rydym eisiau i gynifer o bobl â phosibl gallu defnyddio'r gwasanaeth hwn. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
- chwyddo hyd at 300% heb i'r testun ollwng oddi ar y sgrin
- mynd o ddechrau'r gwasanaeth i'r diwedd gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- mynd o ddechrau'r gwasanaeth i'r diwedd gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y gwasanaeth gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin
Rydym hefyd wedi gwneud y testun yn y gwasanaeth mor syml â phosibl i'w ddeall.
Mae gan AbilityNet hgyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.
Statws cydymffurfio
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n llawn â safon AA fersiwn 2.2 AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r gwasanaeth hwn
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y gwasanaeth hwn. Os ydych chi'n dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio'r ffurflen Cyswllt DWP ynglŷn â hygyrchedd.
Gweithdrefn gorfodi
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych chi'n hapus â'r ffordd yr ydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â:
- Equality Advisory and Support Service (EASS) os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban
- Equality Commission for Northern Ireland (ECNI) os ydych chi'n byw yng Ngogledd Iwerddon
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y gwasanaeth hwn
Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi ymrwymo i wneud y gwasanaeth hwn yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Sut y gwnaethom brofi'r gwasanaeth hwn
Profwyd y gwasanaeth ddiwethaf ar 8 Gorffennaf 2024 a chafodd ei wirio am gydymffurfiaeth â WCAG 2.2 AA. Cafodd y profion eu cynnal gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Profwyd y gwasanaeth gan ddefnyddio profion awtomataidd a llaw. Fe wnaethom hefyd ddefnyddio VoiceOver, Zoom a Voice Control i brofi.
Paratoi'r datganiad hwn
TParatowyd y dudalen hon ar 22 Medi 2020. Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 8 Gorffennaf 2024.
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 8 Gorffennaf 2024. Cafodd y profion eu cynnal gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Fe wnaethon ni brofi pob tudalen.